Xib.SiteSpecific.Package.LanguageSettingList`1[System.String]

Pam ymuno â ni?


Y Manteision

Fel cyflogwr mwyaf Cymru, mae Cyngor Dinas Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith a phecyn hael ac esgynnol o fanteision.

Y Tâl

Cyflog cystadleuol gyda strwythur tâl teg, cynnydd ac ychwanegiadau blynyddol.

Cynllun Pensiwn 

Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn darparu pensiwn cyflog terfynol wedi’i fynegeio ac un swm di-dreth wrth ymddeol. 

Bydd pob aelod o staff yn talu cyfraniadau pensiwn yn awtomatig wrth ddechrau ar eu swyddi, oni bai eu bod yn dewis peidio â gwneud hynny cyn dechrau. Caiff y cyfraniadau eu tynnu o’r cyflog gwreiddiol a rhoddir gostyngiad yn y dreth. Mae aelodaeth fel arfer yn golygu bod gweithwyr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is. Mae’r Cyngor hefyd yn cyfrannu symiau o arian i’r Gronfa Bensiwn sy’n gysylltiedig â chyfraniadau’r gweithwyr.  

Mae rhagor o fanylion am y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gael yn y llyfryn, “Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – Canllaw i Staff” sydd ar gael drwy wneud cais amdano a bydd hwn hefyd yn cael ei roi i bob ymgeisydd llwyddiannus. 

Mamolaeth/Tadolaeth

Rydym yn cynnig manteision atyniadol o ran hyn, llawer ohonynt yn fwy na'r gofynion statudol lleiaf.

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Mae’r Cyngor yn llwyr gefnogol i’r Strategaeth Cydbwysedd Bywyd a Gwaith, ac mae’n cynnig amryw o gyfleoedd gweithio hyblyg ym mhob lefel yn y Cyngor er mwyn eich helpu i reoli cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae’r trefniadau’n cynnwys cynllun gweithio oriau hyblyg, gweithio yn ystod y tymor, gweithio’n rhan amser, oriau cywasgedig, gweithio o gartref a rhannu swydd. 

Gwyliau

Mae gan y Cyngor gynllun gwyliau blynyddol hael, sy’n gallu codi i 30 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. At hynny, ceir 8 diwrnod o Wyliau Statudol a 4 diwrnod anstatudol ychwanegol bob blwyddyn.  

Benthyciadau Ceir

Mae Cynllun Benthyciadau Ceir ar gael sy’n rhoi cyfraddau cystadleuol i staff, er mwyn eu helpu i brynu ceir. 

Teithio

Mae modd prynu tocynnau tymor gan Bws Caerdydd a Threnau Arriva Cymru.

Yn ôl i’r brig


Dysgu a Datblygu

Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad sy'n gwerthfawrogi ei staff drwy roi cyfleoedd i ddatblygu fel unigolion a bod yn effeithiol yn eu gwaith. Mae ein Strategaeth Ein Pobl Ni yn seiliedig ar flaenoriaethau strategol y Cyngor a gwerthoedd atebolrwydd, hyblygrwydd, tryloywder, gonestrwydd, amrywiaeth, parch a gweithio gyda phobl eraill. 

Gall gweithwyr ddisgwyl:

  • Mynediad i adolygiad perfformiad a datblygiad
  • Mynediad cyfartal i amrywiaeth o gyfleoedd dysgu amrywiol i alluogi unigolion i ddatblygu llwybrau dysgu yn y Cyngor
  • Bydd modd i reolwyr ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli pobl eraill a rheoli eu blaenoriaethau busnes yn effeithiol
  • Rhaglen barhaus o hyfforddiant mewnol gan gynnwys datblygu sgiliau polisi a TGCh
  • Hyfforddiant achrededig e.e. Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Yn ôl i’r brig


Amrywiaeth

Ein Hymrwymiad

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a rheoli amrywiaeth. Mae'r ymrwymiad hwn yn deillio o’r canlynol:

  • Ein gwerthoedd fel awdurdod, sy'n cynnwys amrywiaeth, gonestrwydd, atebolrwydd, a gweithio gydag eraill
  • Y gofyniad cyfreithiol i hyrwyddo cydraddoldeb a dileu camwahaniaethu, sydd wedi’i ymgorffori mewn amrywiaeth o ddeddfau  a dyletswyddau’r sector cyhoeddus.
  • Yr achos busnes clir dros gynnwys ein holl ddinasyddion ym mywyd a gwaith y Cyngor.

Mae gan y Cyngor Ddatganiad Strategol Cyfleoedd Cyfartal, sy’n ein hymrwymo i gefnogi ein holl weithwyr a dinasyddion, beth bynnag fo’u hoedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, iaith ddewisol, hil, cenedligrwydd, cefndir teuluol, cyfrifoldebau gofal, neu eu credoau crefyddol neu anghrefyddol.

Mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn gyfrifoldeb i bawb, boed yn weithwyr y Cyngor, Aelodau’r Cyngor neu’n gyflenwyr nwyddau neu wasanaethau i’r Cyngor.

Meysydd Cydraddoldeb

Er bod yr agenda hawliau dynol yn cydnabod pobl fel unigolion cymhleth gydag amrywiaeth o nodweddion personol, er hwylustod mae’r Cyngor yn rhannu ei waith yn saith maes diffiniedig, sef:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Rhyw
  • Iaith
  • Hil
  • Cred grefyddol neu anghrefyddol
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Oedran

Yr ydym wedi ymrwymo i ddileu hiliaeth mewn cyflogaeth, ac yr ydym yn ceisio cefnogi gweithwyr ifanc a hŷn. Mae gennym Gynllun i Bobl Ifanc sy’n Gadael yr Ysgol a Rhaglen Lleoliad Gwaith i Raddedigion, ac yr ydym bellach yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i fentora a datblygu rhagor o bobl ifanc o fewn y sefydliad.  

Mae Strategaeth Pobl Hŷn gennym hefyd, sydd wedi datblygu ei fforwm a’i weithrediaeth ei hunan.

Anabledd

Ar ôl cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Anabledd yn 2007, rydym bellach yn gweithio gyda’n Grŵp Gweithwyr Anabl i ddatblygu cydraddoldeb mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:

  • Mynediad Corfforol - yn adeiladau a gweithleoedd y cyngor yn ogystal â’r amgylchedd adeiledig ehangach a threfol, ac mewn mannau cyhoeddus agored.
  • Cyfathrebu Hygyrch – fel y gall gwasanaethau’r Cyngor gyfathrebu mewn modd hygyrch yn gyson gyda’n dinasyddion.

Rhyw

Cyhoeddwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Rhyw cyntaf yn Nhachwedd 2007. Yn ogystal ag ymrwymo ein hunain i ymladd stereoteipio ar sail rhyw, yr ydym hefyd yn paratoi cynllun gweithredu cyflog cyfartal i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y ddau ryw.

Iath

Fel Prifddinas Cymru a lleoliad y diwydiant cyfryngau cenedlaethol, mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan allweddol yn ein bywyd diwylliannol lleol.  Ers 1993, bu gennym Gynllun Iaith Gymraeg.  Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn gweithio i Gyngor Caerdydd ac yr ydym yn hyrwyddo amgylchedd gwaith cadarnhaol sy’n gwerthfawrogi ac yn cydnabod eu balchder yn yr iaith Gymraeg.

Fel dinas amlddiwylliannol gyda llawer o gymunedau lleiafrifol rydym yn darparu gwasanaethau cymorth iaith trwy ein Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu. 
 
Hil

Yng Nghyfrifiad 2001, nodwyd bod  8.6% o boblogaeth Caerdydd  yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol. Mae astudiaethau mwy diweddar o’n Gwasanaeth Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig  yn amcangyfrif y bydd un ymhob pedwar o’n plant ysgol yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol erbyn 2011, gan adlewyrchu’r patrymau diweddar o geisio lloches ac ymfudo economaidd a’r cyfraddau geni uwch ym mhlith teuluoedd lleiafrifol ethnig Caerdydd.

Yr ydym yn cydnabod bod rhaid i ni, fel cyflogwr, fod â gweithlu sy'n gynrychioladol. Yn rhan o'n Cynllun Cydraddoldeb Hil 2008-11, byddwn yn cydweithio'n agos â'n gweithwyr lleiafrifol ethnig er mwyn cyflawni uchelgais y Cyngor i fod yn Gyflogwr Dewisol.

Yr ydym hefyd yn cyflwyno amrywiaeth eang iawn o wasanaethau i gyflawni anghenion y cymunedau ethnig lleiafrifol ac ariannu grwpiau cymunedol niferus i gyflwyno gwasanaethau i gymunedau penodol a chymunedau o ddiddordeb.

Cred Grefyddol ac Anghrefyddol

Sefydlwyd Ystafell Weddi a Myfyrdod yn Neuadd y Sir yn Chwefror 2007, sydd bellach yn darparu cyfle i weithwyr o bob ffydd (neu sydd heb unrhyw ffydd benodol) fyfyrio ar eu teimladau ysbrydol.

Mae nifer o fentrau yn y gymuned hefyd i annog deialog rhwng y gwahanol grefyddau, ac rydym yn gwneud cynnydd o ran diddymu'r rhaniadau rhwng y  gwahanol gredoau.

Cyfeiriadedd Rhywiol

Mae Caerdydd, yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ymuno â Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall, wedi arddangos ei ymrwymiad i’r Maes Cydraddoldeb hwn. Mae ein grŵp staff Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn hynod weithgar ac yn helpu i ddatblygu a chraffu polisïau’r Cyngor.


Ac Yn Olaf ....

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn y mae Cydraddoldebau ac Amrywiaeth yn ei olygu i Gyngor Caerdydd, ewch i’r tudalennau Cydraddoldeb ac amrywiaeth ar ein gwefan.

www.caerdydd.gov.uk/cydraddoldeb
 

Yn ôl i’r brig

Chwilio...